Cyflogaeth â Thâl i Denantiaid
Yn ogystal â gwirfoddoli, gall tenantiaid Cartrefi Conwy wneud cais am gyflogaeth â thâl yn Creu Menter, i gael profiad yn y meysydd canlynol:
- Gweinyddiaeth
- Llafur Cyffredinol
- Cynnal a Chadw Amgylcheddol
- Clirio a Glanhau Eiddo
- Cynnal a Chadw Eiddo a Pheintio
Pan yn ymuno â’n Academi Gyflogaeth rydych chi’n cael mwy na ‘dim ond swydd’. Rydym yn darparu:
- Cyflogaeth â thâl am hyd at 12 mis
- Cynllun datblygiad personol
- Hyfforddiant a chefnogaeth yn y gwaith
- Hyfforddiant ffurfiol
- Hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd
- Lleoliadau gwaith gyda sefydliadau eraill
- Mentora i helpu gydag unrhyw rwystrau i gyflogaeth y gallech fod yn eu hwynebu
- Cefnogaeth i ddod o hyd i swydd ar ddiwedd eich contract
Dim ond gyda nifer fach o denantiaid yr ydym yn gweithio ar y tro, gan sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth orau bosibl i lwyddo. Yn ogystal â hyn, bydd gennych fynediad i swyddi gwag nad ydynt yn cael eu hysbysebu mewn man arall, a fydd yn gwella eich siawns o ddod o hyd i’r swydd iawn i chi ar ddiwedd eich contract tymor penodol.
Rydym yn hyrwyddo ein holl swyddi gwag ar Facebook a Twitter, felly gwnewch yn siwr eich bod yn ein dilyn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd newydd.
SUT I WNEUD CAIS
I weld swyddi gwag cyflogedig ar gyfer tenantiaid Cartrefi Conwy a lawrlwytho ffurflen gais cliciwch yma:
Cyfleoedd Cyflogaeth â Thâl Cyfredol
Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at: employmentacademy@creatingenterprise.org.uk