Skip to content

Datrysiadau Modiwlaidd

Modular

DYCHMYGWCH GARTREF GYDA BILIAU YNNI HYD AT 80% YN IS, AER GLANACH AC IACHACH AC AMGYLCHEDD BYW MWY CYFFORDDUS

Mae Creu Menter wedi ymrwymo i drwydded gyda Beattie Passive i adeiladu cartrefi unedol Passivhaus yn egsgliwsif ar draws 6 sir Gogledd Cymru.

Gan fanteisio ar ein perthynas dros y 3 blynedd ddiwethaf o adeiladu cartrefi Passivhaus drwy gynnig Beattie Passive Flying Factory, mae’r cytundeb newydd hirdymor hwn yn ein caniatáu i adeiladu’r cartrefi di-garbon gorau o ran effeithlonrwydd ynni, a ardystir gan Beattie Passive.

Pam adeiladu cartrefi Passivhaus gyda Creu Menter?

  • Deunyddiau a dulliau adeiladu o safon uchel i gyflawni’r lefelau o dyndra aer a gosodiad sydd angen.
  • Fforddiadwyedd – angen 80% yn llai o wres
  • Unrhyw ddyluniad, maint, siâp neu arddull
  • Cyfforddus iawn – safonau gwell o amddiffyniad sain, tân, llifogydd a nwy Radon
  • Cynaliadwy – gostyngiad o hyd at 100% o ran CO2
  • Deunyddiau cynaliadwy ac ôl troed carbon isel
  • Profion ac ardystiad llawn
  • Dyluniad Prydeinig arloesol ac wedi ei gynhyrchu yn y DU

Gan ddefnyddio Dulliau Adeiladu Modern, mae’r cartrefi ecogyfeillgar hyn yn cael eu gweithgynhyrchu’n lleol gan ddefnyddio deunyddiau sydd ar gael yn rhwydd ac mae’r fframiau pren yn cael eu hadeiladu mewn ffatri dros dro ar y safle, gan ostwng yr ôl troed carbon.

https://vimeo.com/472238924

Creu cyfleoedd gwaith

Gan fod y system adeiladu mor syml, mae’r dyluniadau’n creu cartrefi gyda pherfformiad da a chost isel gan ddefnyddio llafur gyda sgiliau cymedrol, gan ddatrys problemau gyda’r bwlch mewn sgiliau. Mae’n rhoi cyfleoedd ar gyfer pobl ddi-waith lleol i gael eu hail-hyfforddi ac elwa’n ariannol ac yn gymdeithasol o gael dychwelyd i’r gweithle.

Po fwyaf o gartrefi y byddwn yn eu hadeiladu, y mwyaf o incwm y gallwn ei gynhyrchu i gwrdd â’n diben cymdeithasol o greu cyfleoedd gwaith i denantiaid a’r gymuned leol.  Mae gweithwyr dan hyfforddiant yn dysgu sgiliau newydd tra’n gweithio gyda chrefftwyr cymwys mewn dulliau newydd o adeiladu sy’n eu galluogi i wella eu hunain a’u cyfleoedd yn y dyfodol.

Rydym yn credu fod hyfforddiant a datblygu sgiliau cymunedau lleol (e.e. prentisiaethau a phrofiad gwaith) yn sylfaenol i ddatblygu atebion adeiladu cynaliadwy hirdymor a bydd hyn yn parhau i fod yn ffocws allweddol yn ein partneriaeth gyda Beattie Passive.

https://vimeo.com/528925036/3025973408

Os hoffech chi wybod mwy am Atebion Unedol, cysylltwch â ni ar 01492 588 980.