Mae sicrhau fod pobl yn aros yn gynnes yn y gaeaf yn rhan bwysig o’r hyn rydym yn ei wneud yn Creu Menter.
Mae gennym dîm penodol o beirianwyr gyda chymwysterau Gas Safe/OFTEC sy’n gwneud gwaith trwsio boeleri ac yn disodli ac adnewyddu systemau gwresogi mewn eiddo preswyl. Rydym yn gosod boeleri mwy effeithlon fel bod llai o ofynion cynnal a chadw ar ein tenantiaid; mae hyn hefyd yn torri biliau ynni’r tenantiaid.
Mae gennym gontractau gwasanaethu nwy ac olew cynhwysfawr gyda chleientiaid sector preifat a chyhoeddus. Ac mewn eiddo preswyl, rydym yn helpu ein cleientiaid i gynnal Cofnodion Diogelwch Nwy Landlordiaid fel eu bod yn cydymffurfio gyda chyfreithiau perthnasol.
Darperir y gwasanaethau hyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mlociau preswyl staff yn Ysbyty Glan Clwyd ac i 3,900 o gartrefi cymdeithas tai Cartrefi Conwy.