Mae nifer o gyfleoedd cyflogaeth am dâl ar gael yn y meysydd gwaith canlynol-:
- Paentio
- Llawrwaith
- Gwagio eiddo a glanhau
- Llafurio cyffredinol
Caiff pob swydd am dâl ei gynnig ar gontract tymor penodol hyd at 18 mis (yn dibynnu ar yr ardal waith). Bydd mentor yn rhoi cefnogaeth i chi er mwyn helpu i sicrhau gwaith parhaol gyda sefydliadau eraill ar ddiwedd y contract tymor penodol
What the Employment Academy provides
- Cyflogaeth am dâl hyd at 18 mis
- Cynllun Datblygu Personol
- Hyfforddiant/cefnogaeth wrth weithio
- Hyfforddiant/Cymwysterau Ffurfiol
- Hyfforddiant Sgiliau Addasrwydd i Waith
- Cefnogaeth Mentor i helpu gydag unrhyw faterion/rhwystrau i gyflogaeth
- Profiad gwaith gyda sefydliadau eraill
- Cymorth i chwilio am waith
Pam y dylai tenantiaid wneud cais?
Os ydych yn barod i gymryd y cam hwnnw i faes cyflogaeth ac wedi bod heb waith ers amser, mae’r Academi yn gyfle delfrydol i gael cyflogaeth am dâl tra’n cael cefnogaeth Mentor ar yr un pryd. Gall eich Mentor eich helpu i oresgyn unrhyw broblemau sydd gennych o ran cael ac aros mewn cyflogaeth
Byddwch yn cael eich hyfforddi tra’n gweithio ac yn derbyn cymwysterau ffurfiol i’w rhoi ar eich CV gyda phrofiad gwaith cyfredol. Bydd lleoliadau gwaith gyda sefydliadau eraill yn gwella eich CV hyd yn oed yn fwy ac yn rhoi blas i chi ar fathau eraill o waith
Mae Cyflogwyr yn dod i'r Academi gyda swyddi gwag nad ydynt hyd yn oed yn cael eu hysbysebu, felly bydd eich cyfle o gael cyflogaeth yn gwella
Mae gan yr Academi gyfradd lwyddo wych o ran sicrhau cyflogaeth i gyfranogwyr. Mae’r Academi yn gweithio gyda nifer fach o denantiaid yn unig er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth orau bosibl
Sut i wneud Cais