Benthyg Dyfais
Yn anterth argyfwng COVID-19 yn ystod haf 2020, amlygodd ein galwadau lles i denantiaid bregus Cartrefi Conwy ddau fater allweddol, sef unigedd a fod pobol wedi eu hallgáu yn digidol. Tra’r oedd gweddill y wlad yn mynd i’r afael â phethau fel WhatsApp, FaceTime a Zoom, nid oedd gan ran sylweddol o’n cymuned y modd, y wybodaeth na’r sgiliau i allu defnyddio gwasanaethau a oedd yn prysur ddod yn hanfodol er mwyn parhau i fod yn gysylltiedig â’r byd tu allan.
O’r argyfwng hwn, ganwyd brosiect peilot Benthyciad TG. Caniataodd cyllid a rhoddion gan Gwynt Y Môr, Cartrefi Conwy a Chymunedau Digidol Cymru i ni fenthyg tabledi gyda data i’n tenantiaid mwyaf ynysig. Cafodd y tenantiaid hyn eu paru â gwirfoddolwyr a hyfforddwyd yn arbennig gan Cymunedau Digidol Cymru fel ‘Hyrwyddwyr Digidol’, a oedd yn cynnig cefnogaeth ac anogaeth dros y ffôn ac yna’n bersonol yn unol â chanllawiau pellhau cymdeithasol.
Roedd y prosiect peilot yn llwyddiant ysgubol, gyda nifer o denantiaid yn prynu eu dyfeisiau eu hunain, yn defnyddio dyfeisiau a oedd wedi bod yn hel llwch o’r blaen, a hyd yn oed yn cael Wi-Fi wedi’i osod yn eu cartrefi! Bydd yr enillion bach ond arwyddocaol hyn, ynghyd â dyfeisiau ychwanegol gan Gymunedau Digidol Cymru, yn caniatáu i ni ymestyn ac ehangu’r prosiect i gyrraedd mwy o denantiaid yn y dyfodol agos.
Hoffech chi hyfforddi a gwirfoddoli fel ‘Hyrwyddwr Digidol’? Cliciwch yma i ddarganfod mwy a chofrestru’ch diddordeb!