Croeso i Creu Menter – Y Contractwr Cymdeithasol o Ddewis
Mae Creu Menter, rhan o Gartrefi Conwy, yn gontractwr adeiladu a chynnal a chadw, sydd wedi ennill gwobrau, ac yn gweithredu yng Ngogledd Cymru. Yn ddiweddar, cawsom ein henwi fel y Cwmni Adeiladu sy’n Tyfu Gyflymaf yng Nghymru, y Cwmni sy’n Tyfu Gyflymaf yng Ngogledd Cymru a’r trydydd Cwmni sy’n Tyfu Gyflymaf yng Nghymru.
Rydym yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau cynnal eiddo i’r sector cyhoeddus a phreifat ac yn arbenigo mewn Adeiladwaith Unedol, yn adeiladu cartrefi Passivhaus o fframiau pren.
Fel menter gymdeithasol, rydym yn gallu dangos gwerth cymdeithasol cryf gan ein bod yn buddsoddi ein helw yn ôl mewn mentrau cyflogaeth trwy ein Hacademi Creu Dyfodol.