Skip to content

Cymorth Chwilio am Swydd

Cymorth Chwilio am Swydd

Cymorth Chwilio am Swydd

Mae ein gwasanaeth Cymorth Chwilio am Swydd yn edrych ychydig yn wahanol dyddiau yma, ond ni fydd unrhyw beth yn ein rhwystro rhag gwneud ein gorau glas i’ch helpu ar eich taith yn ôl i’r gwaith. Gallwn gynnig cefnogaeth dros y ffôn, ar-lein ac yn bersonol yn unol â chanllawiau pellhau cymdeithasol, gan gynnwys:

  • Cyngor ar ysgrifennu CV da sy’n sicrhau canlyniadau
  • Helpu i lenwi ffurflenni cais a pharatoi ar gyfer cyfweliadau
  • Cynllun gweithredu personol i’ch cefnogi chi i oresgyn eich rhwystrau a chyflawni’ch nodau

Mae gennym gysylltiadau rhagorol â chyflogwyr lleol, ac rydym yn gweithio’n agos gyda nhw a sefydliadau eraill i sicrhau eich bod yn derbyn yr hyfforddiant cywir a chyfleoedd eraill. Ar ben hynny, unwaith y byddwch wedi llwyddo i gael swydd, gallwn ddarparu cymorth ychwanegol i chi ar gyfer mis cyntaf eich cyflogaeth.
Mae’n hawdd cychwyn arni – dim ond rhoi galwad i ni ar 01492 588 980 neu anfon e-bost i employmentacademy@creatingenterprise.org.uk