Skip to content


Gwirfoddolwr ‘Annibynnol Fi’

Dyddiad Cau: Penagored


Hyrwyddwr Digidol

Digital Champion



Dyddiad Cau: Penagored


Cymhorthydd Gweinyddol Academi Gyflogaeth

Pwrpas/Crynodeb o’r rôl

Cefnogi cydweithwyr Creu Menter a’r prosiect ail ddefnyddio dodrefn, ‘Ail Gyfle’, gyda dyletswyddau gweinyddol cyffredinol.

Disgrifiad o dasgau

– Cofnodi ymweliadau academi gyflogaeth ar daenlen

– Chwilio am swyddi gwag ar gyfer bwrdd swyddi rhithiol

– Cynorthwyo gyda dyletswyddau gweinyddol cyffredinol fel sganio, copïo, lamineiddio a thorri

– Mewnbynnu data (Excel)

– Cofnodi eitemau newydd o ddodrefn ac eitemau o ddodrefn wedi eu casglu ar gyfer ‘Ail Gyfle’

Disgrifiad Rôl



DYDDIAD CAU: PENAGORED


Cymhorthydd Tîm Amgylcheddol

Pwrpas/Crynodeb o’r rôl

Cynorthwyo’r Tîm Amgylcheddol gyda chynnal a chadw gerddi cymunedol Cartrefi Conwy a’r ardaloedd cyfagos.

Disgrifiad o dasgau

– Torri Cloddiau

– Torri Glaswellt

– Plannu

– Tacluso Cyffredinol

– Gwaredu sbwriel a gwastraff gardd o safleoedd i’r Ganolfan Ailgylchu

– Dilyn rheolau Iechyd Diogelwch penodol i safleoedd

Mae’r gwaith yn gorfforol iawn, ac yn golygu codi a chludo yn rheolaidd, ac wedi ei leoli ar safleoedd.  Pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, bydd disgwyl i chi weithio ar safle, yn yr awyr agored, ym mhob tywydd.

Disgrifiad Rôl



DYDDIAD CAU: PENAGORED


Prosiect Teuluoedd Sy’n Gweithio – Swyddog Ymholiadau

Pwrpas/Crynodeb o’r rôl

Gwneud ymholiadau gyda lleoliadau a darparwyr gweithgareddau, a gwneud archebion ar gyfer y digwyddiadau.

Disgrifiad o dasgau

– Holi lleoliadau gwahanol ar gyfer digwyddiadau

– Archebu lleoliadau a chludiant pan fo’r angen

– Cynnal ymweliadau safle i sicrhau bod y lleoliad yn addas

– Cadw cofnod o gostau ar gyfer lleoliadau, cludiant ac ati

Disgrifiad Rôl



DYDDIAD CAU: PENAGORED


Prosiect Teuluoedd Sy’n Gweithio – Cynorthwyydd Marchnata

Pwrpas/Crynodeb o’r rôl

Gweithio ar y cyd gyda’r Swyddog Cyfathrebu i farchnata’r prosiect i chwilio am deuluoedd newydd, hyrwyddo gweithgareddau, a chynnal tudalennau’r cyfryngau cymdeithasol.

Disgrifiad o dasgau

– Cynorthwyo gyda thudalennau’r cyfryngau cymdeithasol

– Yn fodlon i gael eich ffilmio yn rhoi adborth ar ddigwyddiadau

– Hyrwyddo prosiectau a digwyddiadau

– Tynnu lluniau mewn digwyddiadau

– Cynorthwyo gyda datblygu’r ap a’r wefan

Disgrifiad Rôl



DYDDIAD CAU: PENAGORED


Prosiect Teuluoedd Sy’n Gweithio – Swyddog Ymgysylltu â Busnesau

Pwrpas/Crynodeb o’r rôl

Ymgysylltu gyda, a recriwtio busnesau i fod yn rhan o’r cynllun gostyngiad ar gyfer y prosiect Creu Ffyddlondeb.

Disgrifiad o dasgau

– Cysylltu gyda busnesau i ddweud wrthynt am y prosiect

– Cynorthwyo gydag ymholiadau busnes

– Magu perthynas gyda busnesau a rhannu’r newyddion diweddaraf am y prosiect gyda nhw

– Diweddaru Arweinydd y Prosiect ar gyswllt gyda busnesau

Disgrifiad Rôl



DYDDIAD CAU: PENAGORED


Prosiect Teuluoedd Sy’n Gweithio – Cymhorthydd Cymorth Digwyddiadau

Pwrpas/Crynodeb o’r rôl

Cefnogi’r Tîm Prosiect Teuluoedd Sy’n Gweithio i ddarparu digwyddiadau yn y gymuned leol.

Disgrifiad o dasgau

– Yn ystod digwyddiadau teuluol, ymgysylltu gyda rhieni a phlant a chymryd rhan yn y gweithgareddau

– Meddwl am syniadau ar gyfer hyrwyddo digwyddiadau

– Helpu i drefnu’r digwyddiadau

– Cynorthwyo gyda dosbarthu taflenni gwybodaeth o ddrws i ddrws

– Gosod a chlirio ystafelloedd cyn ac ar ôl digwyddiadau

Disgrifiad Rôl



DYDDIAD CAU: PENAGORED


Prosiect Teuluoedd Sy’n Gweithio – Cymhorthydd Gweinyddol

Pwrpas/Crynodeb o’r rôl

I gynorthwyo gyda gweinyddu a dyletswyddau archebu ar gyfer prosiect gweithgareddau ar ôl ysgol/cynllun Cerdyn Ffyddlondeb.

Disgrifiad o dasgau

– Dyletswyddau gweinyddu cyffredinol

– Cymryd archebion gweithgareddau

– Anfon llythyrau i deuluoedd

– Ffonio teuluoedd yn ymwneud ag archebion digwyddiadau

Disgrifiad Rôl



DYDDIAD CAU: PENAGORED