Skip to content

Cwrdd Â’n Cyfarwyddwyr Bwrdd


Peter Parry

Peter Parry – Cadeirydd

Mae Peter yn darparu cyfoeth o wybodaeth a gafodd drwy weithio mewn caffael, gofal iechyd ac fel Prif Swyddog Gweithredol. Mae’n preswylio yn Sir Ddinbych ac wedi chwarae pêl-droed yn broffesiynol o’r blaen. Mae wedi gwasanaethu ar sawl bwrdd dros y blynyddoedd o sefydliadau cyllid i’r sector iechyd.

Y rheswm y mae’n edrych ymlaen at ddyfodol Creu Menter yw am ei fod yn rhan o sefydliad sydd ar daith gyffrous.

 


Elwen Roberts - Cyfarwyddwr Gwirfoddol

Elwen Roberts – Cyfarwyddwr Gwirfoddol

Mae Elwen yn dod â chyfoeth o wybodaeth i Creu Menter o yrfa 25 mlynedd yn arbenigo mewn Gwasanaethau Cam-drin Domestig o fewn y Sector Tai. Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Mawrth 2015.

Mae Elwen yn byw yng Ngherrigydrudion ar hyn o bryd ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn materion Gwledig. Yn ei amser rhydd, mae hi’n mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon, fel Gemau Olympaidd Llundain 2012, lle gwirfoddolodd ei hun fel Meistr Gemau.

Gweledigaeth Elwen ar gyfer Creu Menter yw parhau i ddarparu cyfleoedd i wella bywydau’r rhai sy’n byw yn ein cymunedau lleol.


Mark Chadwick

Mae Mark yn arweinydd busnes profiadol. Ar hyn o bryd mae’n byw yn Lerpwl lle mae’n gweithio fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes i sefydliad sydd wedi ennill gwobrau; Fusion 21 Cyf. Mae Mark yn arbenigwr llywodraethiant ac yn fedrus mewn sicrwydd a gwella busnes.

Mae Mark wedi ymrwymo i gefnogi gwaith grŵp Cartrefi Conwy wrth gael effaith bositif ar y cymunedau mae’n eu gwasanaethu.

 


Neil AshbridgeNeil Ashbridge

Hanes proffesiynol Neil Ashbridge yw gweithio i Fanc Lloegr ac mae’n byw yn Wrecsam.

Mae ganddo amryw o ddiddordebau gan gynnwys garddio, teithio a chwaraeon. Ei obeithion ar gyfer Cartrefi Conwy yw darparu eiddo a gwasanaethu o ansawdd uchel i denantiaid.

 


Elinor JonesElinor Corbett-Jones

Mae Elinor yn weithiwr cyfreithiol proffesiynol sy’n cynghori cleientiaid ar faterion cyfreithiol a rheoleiddio mewn sawl diwydiant. Mae Elinor yn arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth, diogelu data ac yn fedrus wrth gynghori ar strategaeth busnes yn ogystal â chydymffurfiad rheoliadol. Ar ôl byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd, mae Elinor wedi symud yn ôl i Ogledd Cymru yn ddiweddar.

 


Guto Lewis Guto Lewis (cyfetholedig)

Mae Guto wedi bod yn y maes busnes ers 30 mlynedd. Yn ogystal â rheoli ei fusnes ei hun, mae’n cynghori sefydliadau ar raddfa fawr a bach ar strategaethau a thwf ac wedi cwblhau dros 100 o brosiectau o’r fath dros y 25 mlynedd diwethaf yn y DU ac yn Ewrop. Ar ôl symud yn ôl i’w ardal enedigol yng Ngogledd Cymru yn 2013, mae’n rhannu ei amser yn helpu codi arian ar gyfer Banc Bwyd Conwy, parhau i helpu ei gleientiaid i dyfu ac edrych ar ôl ei deulu ifanc.

Mae Guto’n credu fod traddodiad Cymreig bob amser yn rhoi’r gymuned yn gyntaf ac mai’r ymateb gorau i gyni ac eithrio cymdeithasol yw datgloi’r ysbryd hwn ac adfywio cymunedau lleol, eu galluogi i gynnal eu hunain yn gymdeithasol ac yn economaidd.

 

 

Cyfarwyddwyr


Picture of Andrew Bowden

Andrew Bowden – Prif Weithredwr, Grŵp Cartrefi Conwy

Treuliodd Andrew dros ugain mlynedd yn gweithio mewn Llywodraeth Leol a’r Trydydd Sector, cyn dod yn Bennaeth Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.   Daeth Andrew’r Prif Swyddog Gweithredol Cyntaf o Gartrefi Conwy yn 2008, yn dilyn trosglwyddiad stoc ar raddfa fawr o Gyngor Conwy, y trosglwyddiad gwirfoddol cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru.

Mae Andrew yn Is-Gadeirydd CREW (Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru), Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y cyd, aelod o Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig (MRICS) ac yn Gymrawd Sefydliad y Cyfarwyddwyr (FIoD).

Mae Andrew yn frwdfrydig am ddarparu gwasanaethau cymunedol, a arweiniodd at sefydlu Creu Menter, gyda ffocws ar ddarparu cyfleoedd gwaith ar gyfer ein tenantiaid.


Sharon JonesSharon Jones – Cyfarwyddwr Partneriaethau – Gwerth Cymdeithasol

Roedd Sharon yn sylfaenydd ac yn Brif Swyddog Gweithredol Crest Co-operative am dros 18 o flynyddoedd, menter gymdeithasol lwyddiannus yng Nghonwy, cyn iddi symud ymlaen i helpu i sefydlu Creu Menter ar ddechrau 2016. Mae Sharon wedi bod wrth wraidd datblygu menter gymdeithasol yng Nghonwy ers llawer o flynyddoedd a hi oedd aelod sefydlu Atebion Busnes Menter Gymdeithasol.

 

Enillydd Woman in Leadership for Wales ac enillydd Welsh Social Enterprise Leader of the Year, ac yn fwy diweddar, mae Sharon wedi dod yn ymddiriedolwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy.


Adrian JohnsonAdrian Johnson –  Rheolwr Gyfarwyddwr – Gwasanaethau Masnachol

Adrian Johnson yw Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol ar gyfer Grŵp Cartrefi Conwy. Mae’n gyfrifol am ddod o hyd i ddulliau newydd o ddod a rhagor o incwm i Gartrefi Conwy drwy dyfu’r busnes a chreu cyfleoedd newydd. Mae’n aelod o’r Sefydliad Tai Siartredig ac mae bellach wedi gweithio yn y sector ers dros 15 mlynyedd.

Mae Adrian wedi bod gyda Chartrefi Conwy ers ein sefydlu ym mis Medi 2008. Rheolodd raglen Safon Ansawdd Tai Cymru, gan edrych ar ôl gwerth mwy na £45 miliwn o fuddsoddiad tai i wella eiddo Cartrefi Conwy er mwyn cyrraedd y safon. Gwnaeth yn siŵr ein bod yn llwyddo i gyflawni’r garreg filltir hon ym mis Rhagfyr 2012, gan gyflawni gwerth am arian ardderchog a darpariaeth o ansawdd. Ers 2013, mae Adrian hefyd wedi cyfarwyddo rhaglen drwsio o ddydd i ddydd ac eiddo gwag Cartrefi Conwy, gan greu Uned Gynnal a Chadw Adeiladau effeithlon ac effeithiol sy’n cynnig gwerth am arian, arbedion sylweddol a gwasanaeth o safon i denantiaid.

Ers 2016, mae Adrian wedi bod yn arwain y strategaeth a gwasanaethau twf ar gyfer Creu Menter (is-gwmni y mae Cartrefi Conwy yn llwyr berchen arno). Cenhadaeth Creu Menter yw bod y “y contractwr cymdeithasol o ddewis”, sy’n cynnig darparu gwasanaeth cynnal a chadw eiddo, rheoli cyfleusterau ac adeiladau newydd i gleientiaid preifat a sector cyhoeddus. Ar yr un pryd, mae Creu Menter yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i denantiaid di-waith Cartrefi Conwy. Mae Creu Menter yn mynd o nerth i nerth gyda throsiant cynyddol yn cael ei ail-fuddsoddi mewn swyddi a hyfforddiant.