Skip to content

Beth Yw Menter Gymdeithasol?

Mentrau Cymdeithasol yw busnesau sy’n masnachu at ddibenion cymdeithasol ac amgylcheddol.

Mae data’r Llywodraeth yn amcangyfrif bod tua 70,000 o fentrau cymdeithasol yn y DU yn cyfrannu £18.5 biliwn i economi’r DU ac yn cyflogi bron i filiwn o bobl.

Mae menter gymdeithasol yn fusnes sy’n masnachu i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol a gwella cymunedau, bywydau pobl neu’r amgylchedd.  Maent yn darparu gwasanaethau neu’n gwerthu cynnyrch sy’n gwneud elw fel unrhyw fusnes arall.  Yr hyn sy’n eu gwneud yn wahanol yw’r ffordd maen nhw’n gweithio a’r hyn maen nhw’n ei wneud gyda’r elw.  Mae Mentrau Cymdeithasol yn ail-fuddsoddi’r elwau y maent yn eu gwneud i wneud mwy o ddaioni.

Y cyfuniad hwn o wneud busnes a gwneud daioni sy’n gwneud menter gymdeithasol yn un o’r symudiadau mwyaf cyffrous ac ar gynnydd yn y wlad.  Bydd gan fenter gymdeithasol synnwyr clir o’i chenhadaeth gymdeithasol sy’n golygu y bydd yn gwybod pa wahaniaeth y mae’n ceisio ei wneud, pwy y mae’n anelu at ei helpu a sut mae gwneud hynny.

Conwy – Lle Menter Gymdeithasol

Mae Conwy yn un o ddim ond tri o leoedd yng Nghymru gyfan i gael ei gydnabod fel Lle Menter Gymdeithasol.  Dyma’r ardaloedd lle mae gweithgarwch menter gymdeithasol yn ffynnu.