Sioe Deithiol Creu Dyfodol – Mae ein tîm Creu Dyfodol yn mynd ar daith!
Mae ein tîm Creu Dyfodol yn mynd ar daith!
Bydd y bws swyddi yn ymweld â chymunedau ar draws Conwy rhwng 26ain o Fedi a’r 27ain o Hydref.
Mae ein teithiau wedi bod yn llwyddiant yn y gorffenol, felly ni allwn aros i fod allan ar eto. Mae treulio amser mewn cymunedau ar draws Conwy yn ein galluogi i gysylltu â thenantiaid Cartrefi Conwy a phobl leol. Mae’n gyfle gwych i ddysgu am eu bywydau a’r hyn sydd bwysicaf iddynt, fel y gallwn ddatblygu cymorth wedi’i dargedu sy’n unigryw i bob cymuned.
Mae hefyd yn ein galluogi i ledaenu’r gair am yr holl gyfleoedd gwych sydd eisoes ar gael drwy ein rhaglen Creu Dyfodol – o gyfleoedd gwaith a gwirfoddoli i gymorth digidol a gweithgareddau am ddim i deuluoedd.
Dewch draw am sgwrs, i gwrdd â’n tîm, ac i ddarganfod sut gallwn ni eich helpu chi a’ch cymuned!
Wedi'i rhoi ar y wefan ar: Medi 26, 2022