Skip to content

Gwasanaethau Eiddo

Property Services

Gall Creu Menter ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau eiddo, i’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Drwy ddarparu’r safonau ansawdd uchaf o ran gofal cwsmer, crefftwaith a gwerth am arian, ein nod yw bod “y Contractwr Cymdeithasol o Ddewis” ar gyfer darparu gwasanaethau eiddo.

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:

  • Datblygu Eiddo
  • Cynnal a Chadw Eiddo
  • Cynnal a chadw a rheoli cyfleusterau
  • Gwaith sylfeini a gwelliannau amgylcheddol
  • Paentio ac addurno
  • Disodli systemau gwresogi a gwasanaethu tanwydd
  • Llafurio Cyffredinol

Rydym yn cyflogi crefftwyr yn uniongyrchol, yn ogystal â gweithio gydag isgontractwyr uchel eu parch, i gwblhau’r gwaith hwn – felly pan rydych yn cyflogi Creu Menter, rydych hefyd yn helpu rhoi gwaith i bobl ddi-waith yn lleol.

Beth bynnag yw eich anghenion gwasanaeth eiddo, o addurno i raglen adeiladu lawn, gallwn ni helpu. Cofiwch gysylltu i gael mwy o wybodaeth.

Rydym o ddifrif am iechyd a diogelwch ac yn gontractwr gydag achrediad CHAS.

Rydym hefyd wedi sicrhau safon ansawdd ISO 9001, gan arddangos ein gallu i ddarparu gwasanaethau cyson sy’n cwrdd â gofynion cleientiaid a rheoliadol.

Datblygu Eiddo

Datblygu Eiddo

Painter

Mae Creu Menter yn goruchwylio’r gwaith o adeiladu datblygiadau tai newydd ar ran Cartrefi Conwy. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chontractwyr lleol i adeiladu cartrefi newydd.

Fel rhan o’r datblygiad newydd cyffrous hwn, crëwyd 17 cartref newydd mewn ardal breswyl sefydledig yn Hen Golwyn, Gogledd Cymru.

 

 

 

van

Mae’r datblygiad yn cynnwys fflatiau 1 a 2 ystafell wely (rhai ohonynt wedi eu haddasu ar gyfer pobl anabl) yn ogystal â chartrefi teuluol 3 a 4 ystafell wely. Ein tîm Creu Menter baentiodd yr holl waliau mewnol.

Mae’r rhain yn gartrefi i denantiaid tai cymdeithasol. Mae’r tenantiaid wedi symud i mewn i’w cartrefi newydd bellach.

Tîm Cynnal a Chadw Eiddo

Fitting a kitchen

Mae ein tîm cynnal a chadw eiddo yn edrych ar ôl eiddo preswyl a masnachol, gan wneud gwaith cynnal a chadw ac ailwampio a gynlluniwyd.

Rydym yn darparu ceginau, ystafelloedd ymolchi newydd a chymhorthion ac addasiadau i Cartrefi Conwy a hefyd gwaith ailwampio ar gartrefi gwag i’w paratoi ar gyfer tenantiaid newydd.

Gyda nifer amrywiol o weithrediadau aml-grefft, mae’r tîm hwn hefyd yn brif adnodd darparu ar gyfer cleientiaid allanol fel Prifysgol Bangor.

Tîm Rheoli Cyfleusterau

Creating Enterprise van

Darperir ein gwasanaethau rheoli cyfleusterau i gleientiaid preifat a sector cyhoeddus, yn ogystal ag i Cartrefi Conwy. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

  • Llafurio Cyffredinol
  • Clirio cwteri
  • Glanhau ffenestri
  • Glanhau masnachol, gan gynnwys ‘glanhau â sglein’ ar gyfer datblygwyr
  • Clirio eiddo gwag

Mae gennym drwydded cludydd gwastraff, sy’n golygu y gallwn hefyd ddarparu gwasanaethau clirio eiddo a gerddi.

Mae’r Tîm Paratoi Eiddo yn gwneud gwaith clirio eiddo gwag (clirio eiddo heb denantiaid ar hyn o bryd), gan eu gadael yn barod i’w hailaddurno.

Tîm Llawrwaith

ground workers

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan bwysig o’r hyn rydym yn ei wneud. Mae’r gwasanaethau’n gosod ffensys, concrit a draeniau. Rydym yn darparu’r gwasanaethau hyn i gleientiaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Mae ein tîm Cynnal a Chadw Amgylcheddol yn dîm sydd newydd ei sefydlu. Maent yn darparu gwasanaethau tirlunio meddal i erddi cymunol

Y Tîm Paentio ac Addurno

painting team

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan bwysig o’r hyn rydym yn ei wneud. Mae’r gwasanaethau’n gosod ffensys, concrit a draeniau. Rydym yn darparu’r gwasanaethau hyn i gleientiaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Mae ein tîm Cynnal a Chadw Amgylcheddol yn dîm sydd newydd ei sefydlu. Maent yn darparu gwasanaethau tirlunio meddal i erddi cymunol

Tîm Gwasanaethu Tanwydd

boiler serviceMae sicrhau fod pobl yn aros yn gynnes yn y gaeaf yn rhan bwysig o’r hyn rydym yn ei wneud yn Creu Menter.

Mae gennym dîm penodol o beirianwyr gyda chymwysterau Gas Safe/OFTEC sy’n gwneud gwaith trwsio boeleri ac yn disodli ac adnewyddu systemau gwresogi mewn eiddo preswyl. Rydym yn gosod boeleri mwy effeithlon fel bod llai o ofynion cynnal a chadw ar ein tenantiaid; mae hyn hefyd yn torri biliau ynni’r tenantiaid.

Mae gennym gontractau gwasanaethu nwy ac olew cynhwysfawr gyda chleientiaid sector preifat a chyhoeddus. Ac mewn eiddo preswyl, rydym yn helpu ein cleientiaid i gynnal Cofnodion Diogelwch Nwy Landlordiaid fel eu bod yn cydymffurfio gyda chyfreithiau perthnasol.

Darperir y gwasanaethau hyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mlociau preswyl staff yn Ysbyty Glan Clwyd ac i 3,900 o gartrefi cymdeithas tai Cartrefi Conwy.

Llafurio Cyffredinol

Labouring team

Mae’r tîm llafurio cyffredinol wrth law i gyflawni gwaith trwsio bychan ymatebol ac ad-hoc, a gall hefyd ddarparu gweithrediadau dau weithiwr lle bo angen.