Skip to content

Archif Newyddion a Digwyddiadau

MAE’R BUSNESAU CYMDEITHASOL SY’N CYSTADLU AM YR ANRHYDEDDAU UCHAF YNG NGWOBRAU BUSNES CYMDEITHASOL CYMRU ELENI WEDI’U CYHOEDDI

Posted on: Awst 13, 2021
Social Business Wales Awards

“Bydd Gwobrau 2021 yn eiliad i ddathlu’r cyfraniadau anhygoel a wneir gan fusnesau cymdeithasol yng Nghymru, gan gydnabod y sefydliadau hynny sydd wedi newid, tyfu a ffynnu yn yr amodau hynod heriol hyn.” Derek Walker, Prif Swyddog Gweithredol, Canolfan Cydweithredol Cymru

Mae’r busnesau cymdeithasol sy’n cystadlu am yr anrhydeddau uchaf yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru eleni wedi’u cyhoeddi.

Mae’r Gwobrau, sydd wedi’u cynnal ers 2010, yn ddathliad proffil uchel o fudiad mentrau cymdeithasol Cymru ac yn dangos cryfder gweithgarwch busnes cymdeithasol ar hyd a lled Cymru. Daw ymgeiswyr o amrywiaeth o ddiwydiannau, ond mae pob un yn dangos agwedd ddynamig, entrepreneuraidd ac uchelgeisiol sy’n helpu’r sector busnes cymdeithasol i dyfu er gwaethaf y pandemig.

Eleni mae dau brif gategori – Menter Gymdeithasol y Flwyddyn Cymru, sy’n chwilio am weledigaeth a chyfeiriad strategol rhagorol yn ogystal ag effaith gymdeithasol, amgylcheddol a chymunedol amlwg, a’r Fenter i’w Gwylio – Cymru, sy’n chwilio am fentrau cymdeithasol newydd ac arloesol sy’n masnachu ers llai na dwy flynedd gydag effaith gychwynnol drawiadol a gweledigaeth gref ar gyfer y dyfodol. Cafodd busnesau cymdeithasol gyfle i gynnig eu hunain yn y categorïau canlynol hefyd: Technoleg er Budd; Effaith ar y Gymuned; a Thîm Menter Gymdeithasol y Flwyddyn.

Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn cael eu cynnal yn rhithwir am y tro cyntaf ddydd Mawrth 5 Hydref. Mae’r Gwobrau’n rhan o brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Prif noddwr Gwobrau eleni yw Cowshed Communication, gyda nawdd ychwanegol gan Legal & General, Acuity Law, Perago a Banc Triodos.    

Dywedodd Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru ac arweinydd cyflenwi Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol Cymru:

“Amharwyd yn sylweddol ar amodau masnachu llawer o fusnesau dros y 18 mis diwethaf, felly ar gyfer y Gwobrau eleni rydym yn awyddus i ddathlu gwydnwch ac ysbryd entrepreneuraidd y sector busnes cymdeithasol. 

“Bydd Gwobrau 2021 yn eiliad i ddathlu’r cyfraniadau anhygoel a wneir gan fusnesau cymdeithasol yng Nghymru hefyd, gan gydnabod y sefydliadau hynny sydd wedi newid, tyfu a ffynnu yn yr amodau hynod heriol hyn. 

“Dymunwn bob lwc i’r holl fusnesau ar restr fer y Gwobrau. Ein gobaith, beth bynnag fo’r canlyniad, yw y bydd eu llwyddiant yn ysbrydoli cenhedlaeth o entrepreneuriaid cymdeithasol yn y dyfodol.” 

Dywedodd Vicki Spencer Francis, Rheolwr Gyfarwyddwr Cowshed Communication, Prif Noddwr Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru eleni:

“Ymrwymiad Cowshed yw creu ymgyrchoedd eithriadol i gleientiaid rydym yn eu caru ac achosion rydym yn credu ynddynt. Ac fel rhan o’r ymrwymiad hwn rydym wedi noddi’r gwobrau dros y tair blynedd diwethaf. Eleni, roeddem am fynd gam ymhellach i ddangos ein cefnogaeth i fentrau cymdeithasol drwy ddod yn brif noddwr.

“Er y bydd 2020 yn cael ei chofio fel blwyddyn Covid-19, ni fyddwn byth yn anghofio’r eiliadau o garedigrwydd a’i gwnaeth yn flwyddyn o undod, ysbryd cymunedol a chydweithrediad. Manteisiodd mentrau cymdeithasol ar eu cryfderau, gan ddefnyddio eu gwybodaeth unigryw am gymunedau lleol i gefnogi’r rhai yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt ac i gyflenwi adnoddau hanfodol a chodi arian i’n GIG. Dyma’r math o gyflawniadau rydym yn edrych ymlaen at glywed amdanynt a’u dathlu yn y Gwobrau ym mis Hydref.” 

Mae rhestr lawn o’r categorïau a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2021 i’w gweld isod: 

  1. Menter Gymdeithasol y Flwyddyn (a noddir gan Cowshed PR): sy’n agored i fentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn masnachu ers mwy na dwy flynedd, mewn unrhyw sector busnes.
  • Creu Menter
  • The Community Impact Initiative
  • Grŵp Gweithgareddau Therapiwtig CIC 
  1. Y Fenter i’w Gwylio (a noddir gan Legal & General): sy’n agored i fentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn masnachu ers llai na dwy flynedd, mewn unrhyw sector busnes.
  • Amathanon CIC (Carmarthen Food)
  • Drosi Bikes
  • Prom Ally 
  1. Technoleg er Budd: Menter Gymdeithasol Technoleg (a noddir gan Perago): sy’n agored i fentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn gweithredu ers mwy na dwy flynedd ac sy’n defnyddio technoleg i gael effaith gymdeithasol.
  • Cardiff Cleaning Services (APP UK)
  • Empower – Be the Change
  • Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych 
  1. Effaith ar y Gymuned (a noddir gan Fanc Triodos): sy’n agored i fentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn gweithredu ers mwy na dwy flynedd ac yn masnachu er budd y gymuned leol. 
  • PTAWA Enterprises Ltd
  • Green Willow Funerals Ltd
  • Iorwerth Arms
  • Glyn Wylfa 
  1. Tîm Menter Gymdeithasol y Flwyddyn (a noddir gan Acuity Law): Mae’r categori hwn yn cydnabod y timau hynny sydd, yn ystod blwyddyn hynod heriol, wedi dangos y cryfder, yr angerdd a’r gwydnwch sydd mor nodweddiadol o’r sector mentrau cymdeithasol. 
  • Creu Menter
  • Empower Be The Change
  • Clwb Pêl-droed Tref Llangefni

SYLWER: Yn ogystal â chael eu cynnal yng Nghymru, mae’r Gwobrau cyfatebol yn cael eu cynnal yng ngwledydd eraill y DU hefyd. Mae partneriaid yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn defnyddio’r un categorïau, amserlenni, ffurflenni cais a meini prawf. Cyhoeddir enillwyr o bob gwlad ddechrau’r hydref a byddant yn mynd ymlaen i gystadlu mewn rownd derfynol yn y DU a gynhelir ym mis Rhagfyr.


Rydyn ni’n ôl ar y lôn!

Posted on: Gorffennaf 19, 2021
Creating Enterprise Summer Roadshow

Dewch draw am sgwrs ac i darganfod sut y gallwn helpu gyda chyflogaeth, gwirfoddoli a hyfforddi, gweithgareddau teuluol a llawer mwy!

Roadshow Week 1


CWRDD Â’N CYDLYNYDD GWIRFODDOLWYR!

Posted on: Mehefin 23, 2021
Volunteering Q&A Session
Ymunwch â ni ar Microsoft Teams ddydd Mercher 30ain o Fehefin am 1pm i gwrdd â’n Cydlynydd Gwirfoddolwyr, darganfod mwy am ein rolau newydd a phresennol, a dysgu sut y gall rhoi ychydig o’ch amser wneud gwahaniaeth enfawr i unigolion a’r gymuned yn ehangach.
I archebu’ch lle ar y sesiwn wybodaeth hon, ffoniwch ni ar 01492 588 980, anfonwch e-bost at volunteering@creatingenterprise.org.uk neu anfonwch neges atom ar Facebook. Os nad ydych chi’n hyderus gyda defnyddio Teams, rydyn ni’n fwy na pharod i roi’r holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi i fynychu’r sesiwn.
Volunteering Q&A Session

YDYCH CHI’N GRŴP CYMUNEDOL LLEOL SY’N CHWILIO AM ARIAN I LANSIO PROSIECT ADFER ÔL-COVID?

Posted on: Mehefin 18, 2021
Post-Covid Recovery Fund
Oes gennych chi syniad i ddod â phobl ynghyd a helpu’ch cymuned i wella yn dilyn misoedd anodd? Mae gan Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy a Gogledd Orllewin Cymru gronfa ar gael ar gyfer grwpiau cymunedol yn Nyffryn Conwy ac ar hyd arfordir Gogledd Orllewin Cymru i’ch cynorthwyo i lansio prosiect ôl-Covid.
Am help neu gyngor, cysylltwch â Philip Jones:
01492 523843
philipjones@cvsc.org.uk
*Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol.

Sesiwn Q&A Gwirfoddoli

Posted on: Mai 18, 2021
Volunteering Q&A Session
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig nid un ond DAU gyfle gwirioneddol unigryw i ddarpar wirfoddolwyr. Ymunwch â ni ar Microsoft Teams ddydd Iau 27 Mai am 2pm i gwrdd â’n Cydlynydd Gwirfoddolwyr, darganfod mwy am ein rolau Hyrwyddwr Digidol a Mabwysiadwr Gorsaf, a dysgu sut y gall rhoi ychydig o’ch amser wneud gwahaniaeth enfawr i unigolion a’r gymuned yn ehangach.
I archebu’ch lle ar y sesiwn wybodaeth hon, ffoniwch ni ar 01492 588 980, anfonwch e-bost at Volunteering@creatingenterprise.org.uk neu anfonwch neges atom ar Facebook. Os nad ydych chi’n hyderus gyda defnyddio Teams, rydyn ni’n fwy na pharod i roi’r holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi i fynychu’r sesiwn.
Volunteering Q&A Session

Am Ymuno Â’r Cwmni Sy’n Tyfu Gyflymaf Yng Nghymru?

Posted on: Ionawr 4, 2021
Careers at Creating Enterprise

Mae gennym ddwy swydd wag agored ar hyn o bryd!

Swyddog Cynhwysiant Digidol

Ydych chi’n berson uchel eich cymhelliant sydd â sgiliau TG rhagorol ac angerdd dros weithio’n agos gyda phobl? Rydym yn chwilio am Swyddog Cynhwysiant Digidol i gydlynu ein prosiect Benthyciad TG, lle mae tenantiaid ynysig yn cael benthyg dyfeisiau a’u cefnogi i fynd ar-lein.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais.

Cydlynydd Prosiect Kickstart

Rydyn ni wrth ein boddau o rannu’r newyddion y bydd Creu Menter yn sefydliad porth ar gyfer cynllun Kickstart newydd y Llywodraeth. Mewn partneriaeth â Cartrefi Conwy, Brenig Construction, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a PF&S Ltd, byddwn yn creu cyfleoedd gwaith â thâl i 30 o bobl ifanc. Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig, llawn cymhelliant i gydlynu’r cynllun hwn o fewn ein tîm Creu Dyfodol hynod lwyddiannus.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais.


Pasbort i Adeiladu i Fenywod

Posted on: Tachwedd 17, 2020
Passport To Construction For Women C

Mae ein cwrs Pasbort i Adeiladu cyntaf erioed wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer menywod yn cychwyn yr wythnos nesaf.

Ymunwch â ni i ddarganfod mwy am wahanol rolau yn y diwydiant, dysgu am hanfodion iechyd a diogelwch, a gwella’ch sgiliau cyflogadwyedd. Bydd sesiynau’n cael eu cynnal ar-lein 2 fore’r wythnos am 3 wythnos. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael mewnwelediad i’r sector cyffrous yma sydd yn tyfu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

01492 588 980

employmentacademy@creatingenterprise.org.uk


Benthyg Dyfais

Posted on: Awst 25, 2020
Benthyg Dyfais

Mae ein prosiect diweddaraf, Benthyg Dyfais, mewn partneriaeth â Cartrefi Conwy ar y gweill.

Byddwn yn rhoi benthyg dyfeisiau gyda data i denantiaid ynysig ac yn eu paru â gwirfoddolwr a fydd yn eu cefnogi i wneud y defnydd gorau o’u dyfais. Ar ddiwedd y cyfnod o 3 mis, byddwn yn dod o hyd i ddyfeisiau parhaol addas ar eu cyfer.

Dros y mis diwethaf, rydym wedi cael mynediad at 18 o dabledi, gyda diolch enfawr i gyllid Gwynt y Mor a rhodd gan Digital Communities Wales (Canolfan Cydweithredol Cymru).

Mae 6 o’n Hyrwyddwyr Digidol gwirfoddol newydd eu recriwtio wedi derbyn hyfforddiant gan Digital Communities Wales, ac maent yn gyffrous i gwrdd â’r tenantiaid, a gyfeiriwyd gan gydweithwyr Cartrefi Conwy, dros yr wythnosau nesaf.

A allwch chi sbario ychydig o amser i wneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun? Dewch yn Hyrwyddwyr Digidol yma.


Mae Creu Menter Yn Rhoi Dodrefn A Ddefnyddir Yn ‘Ail Gyfle’

Posted on: Awst 25, 2020
Dodrefn Ail Gyfle

Ddydd Mawrth 11 o Awst cynhaliom y digwyddiad Tŷ Agored cyntaf yn adeilad storio BOCS, Mochdre, ble mae ein prosiect ailddefnyddio dodrefn ‘Ail Gylfe’ yn rhedeg ohono. Mae dodrefn a nwyddau cartref eraill yn cael eu danfon i BOCS yn rheolaidd gan dîm gwagio eiddo Cartrefi Conwy, a gall tenantiaid eu casglu am ddim i’w defnyddio yn eu cartrefi eu hunain.

Byddai tenantiaid fel arfer yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth gan un o’n cydweithwyr o Gartrefi Conwy, ond roedd y digwyddiad Tŷ Agored yn cynnig cyfle i hunan-atgyfeirio. O fewn oriau i’r digwyddiad gael ei hysbysebu ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Creu Menter, roedd pob un o’r apwyntiadau a oedd yn cydymffurfio â COVID-19 wedi’u cadw, gan ddangos galw lleol am y gwasanaeth. Adlewyrchir hyn ymhellach yn y ffaith bod penodiadau ychwanegol wedi’u gwneud a’u llenwi gan denantiaid a atgyfeiriwyd gan staff Cartrefi Conwy bob dydd yr wythnos hon.

Yn ystod y digwyddiad ddydd Mawrth, casglwyd dros 20 o eitemau, gan fynd â’r cyfanswm cronnus ar gyfer mis Awst yn unig i 45, heb gynnwys nwyddau amrywiol y cartref gan gynnwys potiau, sosbenni, dillad gwely a thyweli. Ym mis Awst hyd yn hyn, mae 11 o denantiaid gwahanol a’u teuluoedd wedi cael cefnogaeth y prosiect, yn amrywio o’r rhai sy’n symud o lety dros dro i lety parhaol i grŵp o nyrsys rhyngwladol sydd wedi teithio i astudio a gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd.

Bydd digwyddiadau Tŷ Agored y dyfodol yn cael eu hysbysebu ar ein tudalen Facebook.