Sioe Deithiol Creu Dyfodol – Mae ein tîm Creu Dyfodol yn mynd ar daith!
Posted on: Medi 26, 2022
Mae ein tîm Creu Dyfodol yn mynd ar daith!
Bydd y bws swyddi yn ymweld â chymunedau ar draws Conwy rhwng 26ain o Fedi a’r 27ain o Hydref.
Mae ein teithiau wedi bod yn llwyddiant yn y gorffenol, felly ni allwn aros i fod allan ar eto. Mae treulio amser mewn cymunedau ar draws Conwy yn ein galluogi i gysylltu â thenantiaid Cartrefi Conwy a phobl leol. Mae’n gyfle gwych i ddysgu am eu bywydau a’r hyn sydd bwysicaf iddynt, fel y gallwn ddatblygu cymorth wedi’i dargedu sy’n unigryw i bob cymuned.
Mae hefyd yn ein galluogi i ledaenu’r gair am yr holl gyfleoedd gwych sydd eisoes ar gael drwy ein rhaglen Creu Dyfodol – o gyfleoedd gwaith a gwirfoddoli i gymorth digidol a gweithgareddau am ddim i deuluoedd.
Dewch draw am sgwrs, i gwrdd â’n tîm, ac i ddarganfod sut gallwn ni eich helpu chi a’ch cymuned!

Diwrnod Agored Morfa Gele
Posted on: Medi 14, 2022

Nawr rydyn ni i gyd wedi ymgartrefu yn ein swyddfeydd Morfa Gele newydd, rydyn ni’n hynod gyffrous i gynnal ein Diwrnod Agored cyntaf ar ddydd Iau 22 Medi.
Does dim angen archebu, dim ond dod ar hyd unrhyw bryd rhwng 12pm a 3pm.
Cwrdd â thîm Creu Menter a chael gwybodaeth am ein cyrsiau, digwyddiadau a chyfleoedd gwaith sydd ar y gweill – yn ogystal â’r holl wasanaethau cymorth rydyn ni’n eu cynnig.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch get.involved@cartreficonwy.org neu ffoniwch 01492 588980
Gwasanaethau bws i Barc Busnes Gogledd Cymru: 13, 12 a 12x
Mae Pasbort i Adeiladu yn ôl!
Posted on: Awst 5, 2022
Newyddion gwych – mae ein cwrs Pasbort i Adeiladu yn ôl!
Mae’r cwrs nesaf yn dechrau ddydd Mercher 31ain o Awst yn Abergele, a bydd yn rhedeg 3 diwrnod yr wythnos am 2 wythnos. Mae’r cwrs – sy’n cynnig cyfle i gael cerdyn CSCS, cyfarfod â chyflogwyr lleol ac ennill tystysgrifau a phrofiad ymarferol – yn agored i unrhyw un sy’n byw yn Sir Conwy.
Yn ddiweddar clywsom fod un o’r cyfranogwyr ar ein cwrs diweddaraf wedi cael cynnig prentisiaeth Peintio ac Addurno gyda Bell Group – enghraifft arall eto o bŵer Pasbort i Adeiladu i newid bywydau!
Mae lleoedd ar gyfer y cwrs hwn eisoes yn llenwi’n gyflym! Cysylltwch i sicrhau eich un chi!
01492 588 980
get.involved@cartreficonwy.org

Cyhoeddiad Ardystiad Deuol
Posted on: Mehefin 9, 2022
Newyddion gwych i’r tîm draw yn y Ffatri Modiwlar lle cawsant ardystiad deuol yn ddiweddar gyda’r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd® (FSC) a gyda’r Rhaglen ar gyfer Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd® (PEFC). Mae’r FSC yn hyrwyddo rheolaeth gyfrifol o goedwigoedd y byd trwy ardystiad pren ac mae’r PEFC yn sefydliad rhyngwladol sy’n hyrwyddo rheolaeth goedwig gynaliadwy.
Mae’r ffatri’n cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Cymunedau’r Arfordir.
Diweddariad Morfa Gele
Posted on: Mehefin 9, 2022
Roedd hi’n hyfryd i weld yr arlunwyr heddiw yn gweithio yn ein swyddfa newydd ym Mharc Busnes Morfa Gele mewn paratoad i ein symud i fewn. Mae’r gwaith yn dod ymlaen yn braf, ac mae yna awyrgylch lliwgar a bywiog i’w weld.
Llif Optimeiddio Newydd
Posted on: Mehefin 9, 2022
Edrychwch ar Llif Optimeiddio newydd Creu Menter, Llif Salvador arbenigol gyda buddion sy’n cynnwys:
💥Mwy o Gywirdeb
💥Llai o Wastraff
💥Defnydd Mwy Diogel
💥 Yn Cyflawni Pren o Safon Uwch
A allai gwlân defaid ein helpu i greu cartrefi cynaliadwy’r dyfodol?
Posted on: Mai 30, 2022
Mae Cartrefi Conwy a’i is-gwmni Creu Menter wedi elwa ar gymorth ariannol gan raglen SMARTCymru Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Mae ein prosiect Inswleiddio Ffibr Naturiol Cymru (WNFI) yn ceisio defnyddio deunyddiau crai o Gymru i ddatblygu cynnyrch insiwleiddio wedi’i weithgynhyrchu yng Nghymru, sy’n adnewyddadwy ac o ffynonellau lleol, ac a allai o bosibl ein helpu i greu cartrefi cynaliadwy.
Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, rydym yn gobeithio datblygu cynnyrch insiwleiddio ffibr naturiol newydd sydd nid yn unig yn ynni-effeithlon ond yn perfformio’n well o ran amddiffyn rhag tân, llygredd aer a sŵn. Mae ffibrau naturiol yn cynnwys deunyddiau fel ffibr pren, cywarch a llin yn ogystal â Gwlân Defaid. Nid yn unig yw gwlân defaid yn ynysydd thermol, ond mae ei briodweddau yn cynnwys puro aer, rheoleiddio lleithder, inswleiddio rhag sŵn ac amddiffyn rhag tân, yn ogystal â bod yn gynaliadwy.
Bydd cam cyntaf y prosiect yn seiliedig ar ymchwil, lle byddwn yn profi’r cynhyrchion ffibr naturiol ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn ogystal â thymheredd, lleithder ac ati dan do.
Os bydd hyn yn llwyddiannus, ein nod yw treialu’r cynnyrch newydd hwn yn un o’n cartrefi fel rhan o’n rhaglen ôl-osod barhaus.

MAE CYN-GYNORTHWYYDD ACADEMI CYFLOGAETH, JARED, YN FFYNIANNUS YN EI RÔL NEWYDD!
Posted on: Mai 18, 2022
Mi odd hi’n bleser i siarad hefo Jared heddiw. Mae Jared yn beintiwr ar gyfer y Tîm Cynnal a Chadw Eiddo yma yn Creu Menter sydd wedi bod yn gweithio gyda ni ers 2020 ar ôl bod yn ofalwr am sawl mlynedd. Roedd Jared yn denant o Cartrefi Conwy, a drwy gweithio mewn swydd Academi Gyflogaeth, mae o bellach wedi symud ymlaen i gyflogaeth amser llawn. Dywedodd Jared: “Rwy’n falch o fod yn cefnogi fy nheulu.” Dywed ei oruchwyliwr Stephen: “Mae Jared wedi creu argraff arnom ni i gyd gyda’i egni a’i foeseg gwaith.”
YN GALW AR BOB GRŴP CYMUNEDOL!
Posted on: Ionawr 31, 2022
Oeddech chi’n gwybod?
Mae cyllid o hyd at £1000 ar gael ar gyfer prosiect cymunedol sydd o fudd i denantiaid Cartrefi Conwy a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.
Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at get.involved@cartreficonwy.org neu ewch i https://cartreficonwy.org/tenants/my-neighbourhood/funding/?lang=cy
RYDYN NI’N ÔL AR Y LÔN!
Posted on: Hydref 7, 2021
Ydych chi’n edrych i adeiladu eich sgiliau a’ch profiad? Ehangu eich cylch cymdeithasol? Rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned? Dewch draw am sgwrs gyda’n Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Tish.