Skip to content

Archif Newyddion a Digwyddiadau

Menter gymdeithasol yn buddsoddi mewn canolfan hyfforddiant newydd

Posted on: Ionawr 12, 2018

Bydd Menter Gymdeithasol y Flwyddyn Cymru, Creu Menter, yn agor canolfan hyfforddiant newydd ar gyfer pobl leol sydd eisiau mynd yn ôl i weithio.

Mae’r sefydliad, sy’n is-gwmni i Gartrefi Conwy, yn rhedeg academi gyflogaeth arloesol sydd eisoes wedi helpu 29 o denantiaid di-waith i ganfod swyddi llawn amser ac wedi darparu hyfforddiant i oddeutu 200 o denantiaid di-waith.

Mae’r eiddo newydd, sy’n cynnwys canolfan hyfforddiant dair ystafell gyda phedair gweithfan chwilio am waith, wedi ei gefnogi gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan gwmnïau lleol, Brenig Construction o Fae Colwyn a dylunwyr mewnol Just Imagine o Fodelwyddan. Bydd tîm peintio a phapuro Creu Menter yn rhoi’r cyffyrddiad olaf i’r ganolfan.

Bydd yr adeilad newydd ym Mochdre, mewn parc busnes newydd ar safle hen laethdy, ar agor cyn y Pasg. Bydd y cyfleusterau hyfforddi yn cynnwys lolfa ar gyfer cyngor anffurfiol, ystafelloedd chwilio am waith er mwyn i denantiaid Cartrefi Conwy ddefnyddio cyfrifiaduron, edrych ar gronfeydd data cyflogwyr a chwblhau cyrsiau ar-lein, ac ystafelloedd hyfforddiant ar gyfer cyrsiau defnyddiol fel sgiliau cyflogadwyedd ac iechyd a diogelwch.

Meddai Sharon Jones, Cyfarwyddwr Busnes a Phartneriaethau:

Rydym ni’n ddiolchgar iawn am y buddsoddiad cymdeithasol o £60,000 drwy Gronfa Twf Busnesau Cymdeithasol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae’r arian yn cwrdd â rhan fwyaf o’r costau a bydd yn ein helpu i greu chwe swydd lawn amser yn ystod y 12 mis nesaf, gan gynnwys swydd dan hyfforddiant, swyddi ar gyfer crefftwyr a swyddi swyddfa.

Bydd y ganolfan newydd yn lleoliad anffurfiol a chroesawgar i bobl sy’n chwilio am waith ac eisiau dilyn cwrs hyfforddiant. Bydd ar agor pum niwrnod yr wythnos ac fe all tenantiaid alw i mewn ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw i ddefnyddio’r cyfleusterau chwilio am waith, i gwblhau cyrsiau ar-lein ac i dderbyn cyngor.

Buddsoddiad Cymdeithasol

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru