Skip to content

Archif Newyddion a Digwyddiadau

Ffair Swyddi

Posted on: Medi 25, 2018

 


Creu Menter yn cael ei achredu am greu effaith gymdeithasol wirioneddol

Posted on: Mawrth 14, 2018

Mae Creu Menter o Ogledd Cymru wedi cael eu gwobrwyo gyda Marc Menter Gymdeithasol, sy’n profi ei bod ym myd busnes er budd y gymdeithas, y gymuned a’r amgylchedd.

Marc Menter Gymdeithasol yw’r unig achrediad menter gymdeithasol annibynnol uniongyrchol, ac roedd yn rhaid i Greu Menter gyfateb i faen prawf anodd i brofi eu hymrwymiad i greu newid cymdeithasol cadarnhaol i ennill y cymhwyster. Maent yn sicrhau fod eu helw yn cael ei ddefnyddio i greu cyfleoedd am gyflog, i wirfoddoli a hyfforddiant i bobl leol di-waith.

Mae data’r Llywodraeth yn amcangyfrif fod bron i 9% o boblogaeth busnesau bach y DU yn fentrau cymdeithasol, gan gyfrannu dros oddeutu £24 biliwn i’r economi ac yn cyflogi dros 1 miliwn o bobl. Mae mentrau cymdeithasol yn arllwys y rhan fwyaf o’u helw yn ôl i weithgareddau sydd o fudd i bobl a’r blaned, yn hytrach na llenwi pocedi’r cyfranddalwyr.

Mae Creu Menter, sef is-gwmni o fewn cymdeithas tai Cartrefi Conwy, yn darparu gwasanaethau rheoli cyfleusterau ac adeiladau i gleientiaid o amgylch Gogledd Cymru fel y ‘contractwr cymdeithasol o ddewis’. Maent yn rhoi cyfle i denantiaid di-waith Cartrefi Conwy i hyfforddi ac ennill cymwysterau wrth ennill cyflog trwy eu Hacademi Cyflogadwyedd. Yn y deuddeg mis diwethaf yn unig, maent wedi cynorthwyo 40 o bobl leol i ganfod swydd, cynorthwyo 179 o bobl i edrych am waith sydd yn cynnwys hyfforddiant wrth ennill cymwysterau, a chynorthwyo 23 o wirfoddolwyr i gael profiad gwaith.

Dywedodd Sharon Jones, Cyfarwyddwr Busnes a Phartneriaeth yn Creu Menter:

“Rydym yn hynod o falch o gael ein gwobrwyo gyda’r Marc Menter Gymdeithasol. Mae Creu Menter wedi llwyr ymrwymo i gefnogi busnesau cynaliadwy ac o ganlyniad yn cynorthwyo cymunedau lleol i ffynnu a llwyddo.”

Dywedodd y Cynghorodd Lucy Findlay, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cwmni Buddiannau Cymunedol Marc Menter Gymdeithasol:

“Rydym yn falch o wobrwyo’r Marc Menter Gymdeithasol glodfawr i Greu Menter.Mae mentrau cymdeithasol yn gweithio tuag at amryw o flaenoriaethau gwahanol, felly mae’n wych i weld fod adeiladau lleol a chontractwr cynnal a chadw yn deall y pwysigrwydd o ddangos eu gwreiddiau, a phrofi’r gwir am eu busnes.”

Cadeirydd Creu Menter Peter Parry (canol) yn cyflwyno Marc Menter Gymdeithasol i Adrian Johnson, MD (ch)  a Sharon Jones, Cyfarwyddwr (d)

Cadeirydd Creu Menter Peter Parry (canol) yn cyflwyno Marc Menter Gymdeithasol i Adrian Johnson, MD (ch) a Sharon Jones, Cyfarwyddwr (d)


Ffair Swyddi

Posted on: Chwefror 20, 2018

Chwilio am swydd newydd?

Dyma’ch cyfle i gyfarfod â chyflogwyr lleol ac ymgeisio am swyddi.

Bydd y cyflogwyr canlynol ac eraill yn y FFair Swyddi:

  • NHS
  • Brenig Construction
  • Cartrefi Conwy
  • Deganwy Quay
  • Travis Perkins
  • Supertemps
  • Allied Healthcare
  • Novus

*  Gwobrau  *  Lluniaeth

Ble? Creu Menter, Parc Busnes Cartrefi Conwy, Station Road, Mochdre, LL28 5EF (dros y ffordd I Ysgol Babanod Mochdre)

Pryd? Dydd Iau 12fed o Ebrill – galwch unrhyw amser rhwng 10 a 2

 


Sesiwn Academi Gyflogaeth

Posted on: Chwefror 5, 2018

Eisiau swydd sydd yn cynnig hyfforddiant a chymwysterau?

Mae gennym swyddi ar gael nawr ar gyfer tenantiaid Cartrefi Conwy sydd yn ddi-waith

  • dewch i weld pa swydd sydd yn addas i chi
  • ymgeisiwch am swydd ar y diwrnod
  • cwrdd â’r tîm

Lle? Clwb Pel Droed Llandudno

Pryd? Mercher 14eg Chwefror  1yp i 3yp

Dewch draw i’n gweld ni!


Menter gymdeithasol yn buddsoddi mewn canolfan hyfforddiant newydd

Posted on: Ionawr 12, 2018

Bydd Menter Gymdeithasol y Flwyddyn Cymru, Creu Menter, yn agor canolfan hyfforddiant newydd ar gyfer pobl leol sydd eisiau mynd yn ôl i weithio.

Mae’r sefydliad, sy’n is-gwmni i Gartrefi Conwy, yn rhedeg academi gyflogaeth arloesol sydd eisoes wedi helpu 29 o denantiaid di-waith i ganfod swyddi llawn amser ac wedi darparu hyfforddiant i oddeutu 200 o denantiaid di-waith.

Mae’r eiddo newydd, sy’n cynnwys canolfan hyfforddiant dair ystafell gyda phedair gweithfan chwilio am waith, wedi ei gefnogi gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan gwmnïau lleol, Brenig Construction o Fae Colwyn a dylunwyr mewnol Just Imagine o Fodelwyddan. Bydd tîm peintio a phapuro Creu Menter yn rhoi’r cyffyrddiad olaf i’r ganolfan.

Bydd yr adeilad newydd ym Mochdre, mewn parc busnes newydd ar safle hen laethdy, ar agor cyn y Pasg. Bydd y cyfleusterau hyfforddi yn cynnwys lolfa ar gyfer cyngor anffurfiol, ystafelloedd chwilio am waith er mwyn i denantiaid Cartrefi Conwy ddefnyddio cyfrifiaduron, edrych ar gronfeydd data cyflogwyr a chwblhau cyrsiau ar-lein, ac ystafelloedd hyfforddiant ar gyfer cyrsiau defnyddiol fel sgiliau cyflogadwyedd ac iechyd a diogelwch.

Meddai Sharon Jones, Cyfarwyddwr Busnes a Phartneriaethau:

Rydym ni’n ddiolchgar iawn am y buddsoddiad cymdeithasol o £60,000 drwy Gronfa Twf Busnesau Cymdeithasol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae’r arian yn cwrdd â rhan fwyaf o’r costau a bydd yn ein helpu i greu chwe swydd lawn amser yn ystod y 12 mis nesaf, gan gynnwys swydd dan hyfforddiant, swyddi ar gyfer crefftwyr a swyddi swyddfa.

Bydd y ganolfan newydd yn lleoliad anffurfiol a chroesawgar i bobl sy’n chwilio am waith ac eisiau dilyn cwrs hyfforddiant. Bydd ar agor pum niwrnod yr wythnos ac fe all tenantiaid alw i mewn ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw i ddefnyddio’r cyfleusterau chwilio am waith, i gwblhau cyrsiau ar-lein ac i dderbyn cyngor.

Buddsoddiad Cymdeithasol

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru