Roeddem wrth ein bodd bod gwaith Creu Menter wedi ei gydnabod yng Ngwobrau Busnesau Cymdeithasol Cymru yn Sir Ddinbych, ac yn ennill dwy wobr.
Yn ogystal â chael ei ddewis fel enillydd Menter Gymdeithasol Addysg, Hyfforddiant a Swyddi, dyfarnodd y beirniaid Creu Menter gyda theitl Menter Gymdeithasol y Flwyddyn yng Nghymru hefyd.
Dywedodd Sharon Jones, Cyfarwyddwr Busnes a Phartneriaeth:
Roeddem mor falch o ennill y categori Addysg, Hyfforddiant a Swyddi, ac yna’n rhyfeddol iawn i ennill Menter Gymdeithasol y Flwyddyn yng Nghymru. Mae’r gwobrau ar gyfer yr holl dîm, pob gwirfoddolwr a hyfforddai sydd wedi bod yn rhan o stori Creu Menter.
Fel yr enillwyr yng Nghymru, bydd Creu Menter nawr ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Busnesau Cymdeithasol y DU.
Cynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru 2017. Ysgrifennydd Cabinet Ken Skates gyda Andrew Bowden, Sharon Jones, Adrian Johnson a Jim Illidge o Creu Menter.