Mae Sharon Jones, Cyfarwyddwr Busnes a Partneriaeth Creu Menter, wedi cyrraedd y rownd derfynol Gwobrau Arwain Cymru’r flwyddyn hon.
Y mae Gwobrau Arwain Cymru 2017 (hir sefydledig a’r unig wobrau ymroddedig i arweinyddiaeth yng Nghymru) mewn cydweithrediad â The Institute of Leadership and Management wedi cyhoeddi’r rhestr fer y flwyddyn hon.
Ymhlith yr enillwyr blaenorol ceir Laura Tenison MBE, Jo Jo Maman Bébé, Mario Kreft MBE, Prif Weithredwr Pendine Park Care Homes, Kelly Davies, Rheolwr-Gyfarwyddwr Vi-Ability, a Dr Sabine Maguire o Sparkle, South Gwent Children’s Foundation.
Hi yng nghategori Arweinyddiaeth mewn Menter Gymdeithasol am ei rôl fel, un o 3 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori hwn.
Meddai Barbara Chidgey, Cadeirydd Gwobrau Arwain Cymru; “Y mae’r rhestr fer yn adlewyrchu’r safon uchel ac ystod eang o arweinwyr sy’n gweithio ymhob sector ar draws Cymru; fe gaiff ein paneli o farnwyr amser caled ddiwrnod y barnu 14 Gorffennaf. Ar ran Consortiwm Gwobrau Arwain Cymru hoffwn diolchi bawb a wnaeth yr ymdrech i enwebu a rhannu cymaint o enghreifftiau aruthrol o “Arweinwyr yng Nghymru”. Unwaith eto mae’n argoeli i fod yn flwyddyn cyffroes iawn am yr unig wobrau arweinyddiaeth yng Nghymru.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni gwobrwyo amser cinio, a gynhelir yng ngwesty’r Hilton, Caerdydd ddydd Iau 21ain Medi.
Am fanylion pellach, ewch i www.leadingwalesawards.co.uk os gwelwch yn dda.