Mae Pasbort i Adeiladu yn ôl!
Newyddion gwych – mae ein cwrs Pasbort i Adeiladu yn ôl!
Mae’r cwrs nesaf yn dechrau ddydd Mercher 31ain o Awst yn Abergele, a bydd yn rhedeg 3 diwrnod yr wythnos am 2 wythnos. Mae’r cwrs – sy’n cynnig cyfle i gael cerdyn CSCS, cyfarfod â chyflogwyr lleol ac ennill tystysgrifau a phrofiad ymarferol – yn agored i unrhyw un sy’n byw yn Sir Conwy.
Yn ddiweddar clywsom fod un o’r cyfranogwyr ar ein cwrs diweddaraf wedi cael cynnig prentisiaeth Peintio ac Addurno gyda Bell Group – enghraifft arall eto o bŵer Pasbort i Adeiladu i newid bywydau!
Mae lleoedd ar gyfer y cwrs hwn eisoes yn llenwi’n gyflym! Cysylltwch i sicrhau eich un chi!
01492 588 980
get.involved@cartreficonwy.org
Wedi'i rhoi ar y wefan ar: Awst 5, 2022