Skip to content

MAE’R BUSNESAU CYMDEITHASOL SY’N CYSTADLU AM YR ANRHYDEDDAU UCHAF YNG NGWOBRAU BUSNES CYMDEITHASOL CYMRU ELENI WEDI’U CYHOEDDI

MAE’R BUSNESAU CYMDEITHASOL SY’N CYSTADLU AM YR ANRHYDEDDAU UCHAF YNG NGWOBRAU BUSNES CYMDEITHASOL CYMRU ELENI WEDI’U CYHOEDDI

Social Business Wales Awards

“Bydd Gwobrau 2021 yn eiliad i ddathlu’r cyfraniadau anhygoel a wneir gan fusnesau cymdeithasol yng Nghymru, gan gydnabod y sefydliadau hynny sydd wedi newid, tyfu a ffynnu yn yr amodau hynod heriol hyn.” Derek Walker, Prif Swyddog Gweithredol, Canolfan Cydweithredol Cymru

Mae’r busnesau cymdeithasol sy’n cystadlu am yr anrhydeddau uchaf yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru eleni wedi’u cyhoeddi.

Mae’r Gwobrau, sydd wedi’u cynnal ers 2010, yn ddathliad proffil uchel o fudiad mentrau cymdeithasol Cymru ac yn dangos cryfder gweithgarwch busnes cymdeithasol ar hyd a lled Cymru. Daw ymgeiswyr o amrywiaeth o ddiwydiannau, ond mae pob un yn dangos agwedd ddynamig, entrepreneuraidd ac uchelgeisiol sy’n helpu’r sector busnes cymdeithasol i dyfu er gwaethaf y pandemig.

Eleni mae dau brif gategori – Menter Gymdeithasol y Flwyddyn Cymru, sy’n chwilio am weledigaeth a chyfeiriad strategol rhagorol yn ogystal ag effaith gymdeithasol, amgylcheddol a chymunedol amlwg, a’r Fenter i’w Gwylio – Cymru, sy’n chwilio am fentrau cymdeithasol newydd ac arloesol sy’n masnachu ers llai na dwy flynedd gydag effaith gychwynnol drawiadol a gweledigaeth gref ar gyfer y dyfodol. Cafodd busnesau cymdeithasol gyfle i gynnig eu hunain yn y categorïau canlynol hefyd: Technoleg er Budd; Effaith ar y Gymuned; a Thîm Menter Gymdeithasol y Flwyddyn.

Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn cael eu cynnal yn rhithwir am y tro cyntaf ddydd Mawrth 5 Hydref. Mae’r Gwobrau’n rhan o brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Prif noddwr Gwobrau eleni yw Cowshed Communication, gyda nawdd ychwanegol gan Legal & General, Acuity Law, Perago a Banc Triodos.    

Dywedodd Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru ac arweinydd cyflenwi Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol Cymru:

“Amharwyd yn sylweddol ar amodau masnachu llawer o fusnesau dros y 18 mis diwethaf, felly ar gyfer y Gwobrau eleni rydym yn awyddus i ddathlu gwydnwch ac ysbryd entrepreneuraidd y sector busnes cymdeithasol. 

“Bydd Gwobrau 2021 yn eiliad i ddathlu’r cyfraniadau anhygoel a wneir gan fusnesau cymdeithasol yng Nghymru hefyd, gan gydnabod y sefydliadau hynny sydd wedi newid, tyfu a ffynnu yn yr amodau hynod heriol hyn. 

“Dymunwn bob lwc i’r holl fusnesau ar restr fer y Gwobrau. Ein gobaith, beth bynnag fo’r canlyniad, yw y bydd eu llwyddiant yn ysbrydoli cenhedlaeth o entrepreneuriaid cymdeithasol yn y dyfodol.” 

Dywedodd Vicki Spencer Francis, Rheolwr Gyfarwyddwr Cowshed Communication, Prif Noddwr Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru eleni:

“Ymrwymiad Cowshed yw creu ymgyrchoedd eithriadol i gleientiaid rydym yn eu caru ac achosion rydym yn credu ynddynt. Ac fel rhan o’r ymrwymiad hwn rydym wedi noddi’r gwobrau dros y tair blynedd diwethaf. Eleni, roeddem am fynd gam ymhellach i ddangos ein cefnogaeth i fentrau cymdeithasol drwy ddod yn brif noddwr.

“Er y bydd 2020 yn cael ei chofio fel blwyddyn Covid-19, ni fyddwn byth yn anghofio’r eiliadau o garedigrwydd a’i gwnaeth yn flwyddyn o undod, ysbryd cymunedol a chydweithrediad. Manteisiodd mentrau cymdeithasol ar eu cryfderau, gan ddefnyddio eu gwybodaeth unigryw am gymunedau lleol i gefnogi’r rhai yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt ac i gyflenwi adnoddau hanfodol a chodi arian i’n GIG. Dyma’r math o gyflawniadau rydym yn edrych ymlaen at glywed amdanynt a’u dathlu yn y Gwobrau ym mis Hydref.” 

Mae rhestr lawn o’r categorïau a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2021 i’w gweld isod: 

  1. Menter Gymdeithasol y Flwyddyn (a noddir gan Cowshed PR): sy’n agored i fentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn masnachu ers mwy na dwy flynedd, mewn unrhyw sector busnes.
  • Creu Menter
  • The Community Impact Initiative
  • Grŵp Gweithgareddau Therapiwtig CIC 
  1. Y Fenter i’w Gwylio (a noddir gan Legal & General): sy’n agored i fentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn masnachu ers llai na dwy flynedd, mewn unrhyw sector busnes.
  • Amathanon CIC (Carmarthen Food)
  • Drosi Bikes
  • Prom Ally 
  1. Technoleg er Budd: Menter Gymdeithasol Technoleg (a noddir gan Perago): sy’n agored i fentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn gweithredu ers mwy na dwy flynedd ac sy’n defnyddio technoleg i gael effaith gymdeithasol.
  • Cardiff Cleaning Services (APP UK)
  • Empower – Be the Change
  • Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych 
  1. Effaith ar y Gymuned (a noddir gan Fanc Triodos): sy’n agored i fentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn gweithredu ers mwy na dwy flynedd ac yn masnachu er budd y gymuned leol. 
  • PTAWA Enterprises Ltd
  • Green Willow Funerals Ltd
  • Iorwerth Arms
  • Glyn Wylfa 
  1. Tîm Menter Gymdeithasol y Flwyddyn (a noddir gan Acuity Law): Mae’r categori hwn yn cydnabod y timau hynny sydd, yn ystod blwyddyn hynod heriol, wedi dangos y cryfder, yr angerdd a’r gwydnwch sydd mor nodweddiadol o’r sector mentrau cymdeithasol. 
  • Creu Menter
  • Empower Be The Change
  • Clwb Pêl-droed Tref Llangefni

SYLWER: Yn ogystal â chael eu cynnal yng Nghymru, mae’r Gwobrau cyfatebol yn cael eu cynnal yng ngwledydd eraill y DU hefyd. Mae partneriaid yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn defnyddio’r un categorïau, amserlenni, ffurflenni cais a meini prawf. Cyhoeddir enillwyr o bob gwlad ddechrau’r hydref a byddant yn mynd ymlaen i gystadlu mewn rownd derfynol yn y DU a gynhelir ym mis Rhagfyr.

Wedi'i rhoi ar y wefan ar: Awst 13, 2021