Skip to content

Posi-Joist

Croeso gan Adrian Johnson, Cyfarwyddwr Masnachol Creu Menter

“Mae ein ffatri Posi-Joist yn y Rhyl yn cefnogi ein menter newydd o weithgynhyrchu deunyddiau pren pwrpasol sy’n hanfodol i adeiladu ein rhaglen tai fforddiadwy dros y blynyddoedd i ddod.

Drwy gymryd adeilad segur a rhoi bywyd newydd iddo, byddwn yn chwarae rhan allweddol yn adfywiad yr ardal leol. Mae’r busnes newydd hwn hefyd yn helpu i gyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i adeiladu cartrefi di-garbon net sy’n effeithlon i’n tenantiaid fyw ynddynt.

Roedd hyn yn bosibl diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Bydd y cyllid hwn yn amrywio ein ffrydiau gwaith presennol ac yn cynyddu ein gallu i gyrchu’n lleol, adeiladu’n lleol a chynnig llawer o gyfleoedd cyflogaeth i’r rhai sydd bellaf o’r farchnad swyddi yn unol â’n hegwyddorion craidd trwy ein Hacademi Creu Dyfodol.

Ein cenhadaeth yw bod yn brif wneuthurwr cynhyrchion ffrâm bren yn yr ardal.

Dechreuon ni weithgynhyrchu a gosod cartrefi goddefol ffrâm bren yn 2018 a gwnaeth y datrysiad posi-joist gyda’i gryfder anhygoel, hyblygrwydd a symlrwydd pur ei ddyluniad argraff arnom ni fel y penderfynon ni y byddem ni’n dechrau gwneud ein rhai ein hunain.

Felly rydym wedi ymuno â MiTek (cwmni byd-eang sy’n arbenigo mewn datblygu datrysiadau meddalwedd ar gyfer peirianneg bren strwythurol a darparu cynhyrchion cysylltwyr dur) ac rydym yn falch iawn o gael ein dewis yn un o’u gweithgynhyrchwyr cymeradwy.

Mae’r dyluniad Posi-joist unigryw yn rhoi rhyddid dylunio heb ei ail i chi ar draws ystod eang o gymwysiadau ar gyfer y llawr a’r to mewn cymwysiadau domestig, diwydiannol a masnachol. Felly dim bwys pa mor fawr neu fach yw eich prosiect, gallwn ddod o hyd i ateb i chi.”

About Posi-Joist

Benefits - Posi-Joist

Why Choose Posi-Joist

Why Choose Posi-Joist?

Quick And Easy To Order

 

 

Gweithio mewn partneriaeth

Ariennir gan