Skip to content

Cyflogaeth â Thâl i Denantiaid

Cyflogaeth â Thâl i Denantiaid

Cyflogaeth â Thâl i Denantiaid

Yn ogystal â gwirfoddoli, gall tenantiaid Cartrefi Conwy wneud cais am gyflogaeth â thâl yn Creu Menter, i gael profiad yn y meysydd canlynol:

  • Gweinyddiaeth
  • Llafur Cyffredinol
  • Cynnal a Chadw Amgylcheddol
  • Clirio a Glanhau Eiddo
  • Cynnal a Chadw Eiddo a Pheintio

Pan yn ymuno â’n Academi Gyflogaeth rydych chi’n cael mwy na ‘dim ond swydd’. Rydym yn darparu:

  • Cyflogaeth â thâl am hyd at 12 mis
  • Cynllun datblygiad personol
  • Hyfforddiant a chefnogaeth yn y gwaith
  • Hyfforddiant ffurfiol
  • Hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd
  • Lleoliadau gwaith gyda sefydliadau eraill
  • Mentora i helpu gydag unrhyw rwystrau i gyflogaeth y gallech fod yn eu hwynebu
  • Cefnogaeth i ddod o hyd i swydd ar ddiwedd eich contract

Dim ond gyda nifer fach o denantiaid yr ydym yn gweithio ar y tro, gan sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth orau bosibl i lwyddo. Yn ogystal â hyn, bydd gennych fynediad i swyddi gwag nad ydynt yn cael eu hysbysebu mewn man arall, a fydd yn gwella eich siawns o ddod o hyd i’r swydd iawn i chi ar ddiwedd eich contract tymor penodol.

Rydym yn hyrwyddo ein holl swyddi gwag ar Facebook a Twitter, felly gwnewch yn siwr eich bod yn ein dilyn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd newydd.

SUT I WNEUD CAIS
I weld swyddi gwag cyflogedig ar gyfer tenantiaid Cartrefi Conwy a lawrlwytho ffurflen gais cliciwch yma:

Cyfleoedd Cyflogaeth â Thâl Cyfredol

Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at: employmentacademy@creatingenterprise.org.uk