Skip to content

Archif Newyddion a Digwyddiadau

Creu Menter yn cael ei achredu am greu effaith gymdeithasol wirioneddol

Posted on: Mawrth 14, 2018

Mae Creu Menter o Ogledd Cymru wedi cael eu gwobrwyo gyda Marc Menter Gymdeithasol, sy’n profi ei bod ym myd busnes er budd y gymdeithas, y gymuned a’r amgylchedd.

Marc Menter Gymdeithasol yw’r unig achrediad menter gymdeithasol annibynnol uniongyrchol, ac roedd yn rhaid i Greu Menter gyfateb i faen prawf anodd i brofi eu hymrwymiad i greu newid cymdeithasol cadarnhaol i ennill y cymhwyster. Maent yn sicrhau fod eu helw yn cael ei ddefnyddio i greu cyfleoedd am gyflog, i wirfoddoli a hyfforddiant i bobl leol di-waith.

Mae data’r Llywodraeth yn amcangyfrif fod bron i 9% o boblogaeth busnesau bach y DU yn fentrau cymdeithasol, gan gyfrannu dros oddeutu £24 biliwn i’r economi ac yn cyflogi dros 1 miliwn o bobl. Mae mentrau cymdeithasol yn arllwys y rhan fwyaf o’u helw yn ôl i weithgareddau sydd o fudd i bobl a’r blaned, yn hytrach na llenwi pocedi’r cyfranddalwyr.

Mae Creu Menter, sef is-gwmni o fewn cymdeithas tai Cartrefi Conwy, yn darparu gwasanaethau rheoli cyfleusterau ac adeiladau i gleientiaid o amgylch Gogledd Cymru fel y ‘contractwr cymdeithasol o ddewis’. Maent yn rhoi cyfle i denantiaid di-waith Cartrefi Conwy i hyfforddi ac ennill cymwysterau wrth ennill cyflog trwy eu Hacademi Cyflogadwyedd. Yn y deuddeg mis diwethaf yn unig, maent wedi cynorthwyo 40 o bobl leol i ganfod swydd, cynorthwyo 179 o bobl i edrych am waith sydd yn cynnwys hyfforddiant wrth ennill cymwysterau, a chynorthwyo 23 o wirfoddolwyr i gael profiad gwaith.

Dywedodd Sharon Jones, Cyfarwyddwr Busnes a Phartneriaeth yn Creu Menter:

“Rydym yn hynod o falch o gael ein gwobrwyo gyda’r Marc Menter Gymdeithasol. Mae Creu Menter wedi llwyr ymrwymo i gefnogi busnesau cynaliadwy ac o ganlyniad yn cynorthwyo cymunedau lleol i ffynnu a llwyddo.”

Dywedodd y Cynghorodd Lucy Findlay, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cwmni Buddiannau Cymunedol Marc Menter Gymdeithasol:

“Rydym yn falch o wobrwyo’r Marc Menter Gymdeithasol glodfawr i Greu Menter.Mae mentrau cymdeithasol yn gweithio tuag at amryw o flaenoriaethau gwahanol, felly mae’n wych i weld fod adeiladau lleol a chontractwr cynnal a chadw yn deall y pwysigrwydd o ddangos eu gwreiddiau, a phrofi’r gwir am eu busnes.”

Cadeirydd Creu Menter Peter Parry (canol) yn cyflwyno Marc Menter Gymdeithasol i Adrian Johnson, MD (ch)  a Sharon Jones, Cyfarwyddwr (d)

Cadeirydd Creu Menter Peter Parry (canol) yn cyflwyno Marc Menter Gymdeithasol i Adrian Johnson, MD (ch) a Sharon Jones, Cyfarwyddwr (d)