Skip to content

Archif Newyddion a Digwyddiadau

Menter Gymdeithasol Yn Helpu Bwyty Lleol i Baratoi At Agor

Posted on: Mehefin 2, 2017
Creating Enterprise decorators at Dylans - Jordan Davies (l), Ben Crabtree (c), Craig Palmer (r)

Mae peintwyr ac addurnwyr o’r fenter gymdeithasol leol Creu Menter wedi bod yn cynorthwyo lleoliad newydd Dylan’s yn Llandudno i agor ar amser.

Mae Dylan’s wedi cymryd Gwesty enwog y Washington ar lan môr Llandudno drosodd, gan drawsnewid yr adeilad rhestredig Gradd II i fwyty a bar coctels sy’n gyrchfan ynddo’i hun. Gyda’r dyddiad agor swyddogol yn prysur agosáu, gofynnodd Dylan’s i Creu Menter baentio’r tu mewn i’r adeilad tirnod arbennig.

Mae’r tri pheintiwr ac addurnwr yn lleol, ac yn cynnwys Jordan Davies, sydd ar hyn o bryd yn mynd drwy Academi Gyflogaeth Creu Menter ar gyfer tenantiaid Cartrefi Conwy. Cwblhaodd Craig Palmer ei hyfforddiant Academi yn ddiweddar ac mae wedi cael gwaith fel peintiwr llawn amser gan gyfarwyddwr Creu Menter ers yn gynharach y mis hwn.

“Mae’r cynllun Academi Gyflogaeth yn benodol ar gyfer tenantiaid Cartrefi Conwy sydd eisiau dod o hyd i waith”, eglurodd Sharon Jones, Cyfarwyddwr Busnes a Phartneriaeth. “Rydym yn darganfod pa fath o waith sydd ganddynt ddiddordeb ynddo, ac maent yn derbyn hyfforddiant a chymwysterau’n ogystal â chyflog byw.”

Yn ogystal â darparu gwasanaeth i Gartrefi Conwy, mae Creu Menter hefyd yn gweithio gyda chleientiaid sector cyhoeddus, fel Dylan’s. “Ein nod yw bod yn gontractwr cymdeithasol o ddewis” meddai Sharon. “Rydym yn darparu crefftwyr da ar gyfradd gystadleuol, felly mae cleientiaid yn cael gwasanaeth proffesiynol wrth gefnogi pobl lleol i weithio.”

Dywedodd David Evans, Cyfarwyddwr Dylan’s, “Rydym yn falch bod Creu Menter wedi gallu dod i’n helpu ar y funud olaf. Mae eu cymorth wedi bod yn werthfawr iawn ac felly gobeithio rŵan y gallwn agor ar ein dyddiad agor sef 25 Mai”.