Skip to content

Amdanom Ni

Fideo – Creu Menter Ein Stori

Dechreuodd Creu Menter, is-gwmni i Gartrefi Conwy, fasnachu yn 2015 ac mae wedi tyfu’n gyflym i fod y Contractwr Cymdeithasol o Ddewis yng Ngogledd Cymru

Rydym yn darparu ystod o wasanaethau contractio a datblygu i gleientiaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau eiddo hanfodol, ar ran Cartrefi Conwy i 3800 o denantiaid ar draws Conwy. Mae’r rhain yn cynnwys cynnal a chadw eiddo, gwasanaethu cyfarpar nwy, glanhau cartrefi gwag, glanhau i roi sglein a gwelliannau amgylcheddol.

Rydym wedi arallgyfeirio ein gweithgareddau i adeiladu unedol. Rydym wedi agor ein ffatri adeiladu unedol gyntaf yng Nghaergybi, lle rydym yn adeiladu unedau tai goddefol ffrâm bren i ddyluniad Beattie Passive.

SUT YDAN NI’N WAHANOL?

Yr hyn sy’n gwneud Creu Menter yn arbennig yw’r ffordd rydym yn canolbwyntio ar bobl.  Mae ein holl elw masnachol yn cael ei fuddsoddi yn ein diben cymdeithasol sef helpu tenantiaid a chynlluniau i greu gwaith i bobl leol.

Fel menter gymdeithasol, rydym o ddifrif am wella bywydau, creu gwell dyfodol ar gyfer tenantiaid Cartrefi Conwy a’r gymuned leol drwy ein academi gyflogaeth unigryw. Mae Creu Dyfodol yn cefnogi pobl leol i gael cyfleoedd gwaith am dâl yn ogystal â chynnig profiad gwaith ystyrlon a chyfle i ennill cymwysterau, hybu hyder, gwella sgiliau ac ehangu cylchoedd cymdeithasol er mwyn lleihau ynysu.

Ein nod yw helpu pobl i greu dyfodol gwell i’w hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.

Mae Creu Menter hefyd yn dal y drwydded ar gyfer Cymru i redeg yr Academi Menter Gymdeithasol, sy’n darparu rhaglenni dysgu a datblygu i gwmnïau sectorau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector

Mae Creu Menter wedi cael llwyddiant mawr yn ennill amryw o wybodaeth yn rhanbarthol ac yn genedlaethol am ei ymrwymiad i werth cymdeithasol. Yn ddiweddar, cawsom ein henwi fel y Cwmni sy’n Tyfu Gyflymaf yng Ngogledd Cymru, y trydydd cwmni sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru a’r Cwmni Adeiladu sy’r Tyfu Gyflymaf yng Nghymru 2019.