Skip to content

Academi Mentrau Cymdeithasol

1Sefydlwyd yr Academi Mentrau Cymdeithasol yn yr Alban ac mae bellach yn gweithredu mewn 15 o wledydd ar draws Affrica, Asia, Awstralasia, Gogledd America a Chymru! Rydym yn rhan o rwydwaith fyd-eang sy’n darparu raglenni dysgu ac addysgu arloesol ar draws y byd.

Rydym yn darparu rhaglenni dysgu a datblygu trawsffurfiol i helpu unigolion, timau, sefydliadau a chymunedau i adeiladu mentrau cynaliadwy sy’n cyflawni eu heffaith gymdeithasol.

Mae’r Academi Menter Gymdeithasol wedi ei hanelu at bob sector busnes ym mhob cwr o Ogledd Cymru. Caiff pob un o’n rhaglenni eu cyflawni gan Hwyluswyr sy’n entrepreneuriaid neu arweinwyr gweithredol yn eu meysydd yng Nghymru ac yn dod â chyfoeth o arbenigedd i’r grwpiau maent yn darparu iddynt.

Mae ein Hacademi yn cynnig arddull addysgu sy’n wirioneddol wahanol i unrhyw beth y byddwch wedi ei brofi o’r blaen. Nid oes cyflwyniad powerpoint ac rydym yn canolbwyntio yn lle hynny ar ddysgu rhwng cymheiriaid drwy weithgareddau ymarferol, rhyngweithiol a sesiynau grŵp bychan.

Hoffem i chi gymryd rhan. Mae rhywbeth i bawb, dim ots ble’r ydych chi yn eich gyrfa nac ar ba gam y mae eich sefydliad o ran twf. Gallwch ymuno â rhaglen agored neu gallwn deilwra rhaglenni’n benodol at eich anghenion neu anghenion eich sefydliad.

Mae’r rhaglenni yn amrywio o 1 diwrnod i 12 diwrnod, o gyrsiau rhagarweiniol i gyrsiau lefel uwch, gan gynnwys Arweinyddiaeth, Hyfforddi, Menter ac Effaith Gymdeithasol.

Rhaglenni Newydd

Rydym wrth ein boddau i ddod â thair rhaglen ddysgu ar-lein newydd i Gymru sydd wedi eu datblygu mewn ymateb i’r cyfnod heriol hwn.

Mae’r rhaglenni wedi eu cyllido’n llawn ar gyfer busnesau Conwy.

Arwain Newid mewn Cyfnod Heriol

Arwain eich sefydliad drwy gyfnod o newid cyflym
5 awr o ddysgu dan arweiniad hwylusydd ar Zoom ac 8 awr o ddysgu hunangyfeiriedig

Arwain Timau o Bell

Grymuswch eich tîm gwasgaredig mewn cyfnod heriol6161
5 awr o ddysgu dan arweiniad hwylusydd ar Zoom ac 8 awr o ddysgu hunangyfeiriedig

Ail-adeiladu Ffrydiau Incwm

Cynhyrchu incwm mewn amgylchedd masnachu sy’n newid yn gyflym
5 awr o ddysgu dan arweiniad hwylusydd ar Zoom ac 8 awr o ddysgu hunangyfeiriedig

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglenni neu i archebu lle, ewch i www.socialenterprise.academy/wales

Ffoniwch 01492 588 980 neu anfonwch e-bost i wales@socialenterprise.academy i ddarganfod sut y gall yr Academi Menter Gymdeithasol helpu eich pobl a’ch sefydliad.